Genesis 14

Abram yn achub Lot

1Bryd hynny roedd Amraffel brenin Babilonia
14:1 Hebraeg,  Shinar sy'n hen enw am wlad Babilon.
, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goïm,
2yn rhyfela yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsha brenin Gomorra, Shinab brenin Adma, Shemeber brenin Seboïm, a brenin Bela (sef Soar). 3Roedd brenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela wedi ffurfio cynghrair, a dod at ei gilydd yn nyffryn Sidim (sef y Môr Marw).
14:3 Hebraeg, “Môr Halen”
4Roedden nhw wedi bod dan reolaeth Cedorlaomer am ddeuddeg mlynedd, ond y flwyddyn wedyn dyma nhw'n gwrthryfela yn ei erbyn.

5Flwyddyn ar ôl hynny daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd ar ei ochr e, a concro y Reffaiaid yn Ashteroth-carnaïm, y Swsiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-Ciriathaim, 6yr Horiaid ym mryniau Seir yr holl ffordd i El-paran sydd wrth ymyl yr anialwch. 7Wedyn dyma nhw yn troi yn ôl ac yn ymosod ar En-mishpat (sef Cadesh), a gorchfygu gwlad yr Amaleciaid i gyd, a hefyd yr Amoriaid oedd yn byw yn Chatsason-tamar. 8Felly dyma frenhinoedd Sodom, Gomorra, Adma, Seboïm a Bela (sef Soar) yn mynd i ddyffryn Sidim, i ymladd 9yn erbyn Cedorlaomer brenin Elam, a brenhinoedd Goïm, Babilonia ac Elasar – pedwar brenin yn erbyn pump.

10Roedd Dyffryn Sidim yn llawn o byllau tar. Wrth i fyddinoedd Sodom a Gomorra ddianc oddi wrth y gelyn, dyma rai ohonyn nhw yn llithro i mewn i'r pyllau. Llwyddodd y gweddill i ddianc i'r bryniau. 11Dyma'r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a'r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd. 12A dyma nhw'n cymryd Lot, nai Abram, a'i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom.

13Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a'i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram. 14Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, 318 o ddynion oedd wedi eu geni gyda'r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd. 15Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i'r gogledd o Damascus. 16Cafodd bopeth roedden nhw wedi ei ddwyn yn ôl. Daeth â'i nai Lot a'i eiddo yn ôl hefyd, a'r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal.

Melchisedec yn bendithio Abram

17Ar ôl ennill y frwydr yn erbyn Cedorlaomer a'r brenhinoedd eraill, aeth Abram adre. Aeth brenin Sodom i'w groesawu yn Nyffryn Shafe (sef Dyffryn y Brenin). 18A dyma Melchisedec, brenin Salem, yn mynd â bwyd a gwin iddo. Roedd Melchisedec yn offeiriad i'r Duw Goruchaf, 19a dyma fe'n bendithio Abram fel hyn:

“Boed i'r Duw Goruchaf,
sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear,
dy fendithio Abram.
20A boed i'r Duw Goruchaf gael ei foli,
am ei fod wedi gwneud i ti goncro dy elynion!”

Yna dyma Abram yn rhoi iddo un rhan o ddeg o'r cwbl oedd ganddo.

21Wedyn dyma frenin Sodom yn dweud wrth Abram, “Rho'r bobl yn ôl i mi, ond cadw bopeth arall i ti dy hun.” 22Ond atebodd Abram, “Na, dw i wedi cymryd llw, ac addo i'r Arglwydd, y Duw Goruchaf sydd wedi creu y nefoedd a'r ddaear, 23na fydda i'n cymryd dim byd gen ti – y mymryn lleiaf
14:23 Hebraeg, “darn o edau neu garrai oddi ar un sandal”
hyd yn oed. Dw i ddim am i ti ddweud, ‘Fi sydd wedi gwneud Abram yn gyfoethog.’
24Does gen i eisiau dim byd ond beth mae'r milwyr ifanc yma wedi ei fwyta. Ond mae'n iawn i Aner, Eshcol a Mamre, aeth i ymladd gyda mi, gael eu siâr nhw.”

Copyright information for CYM